Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-05-11 papur 5
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaeth Cyffredin
Ymchwiliad i ddiwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin
Cefndir
Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddodd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Trydydd Cynulliad ei adroddiad ar ddiwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC), ar ôl ymchwiliad a geisiodd barn rhanddeiliaid yng Nghymru ar sut y dylid diwygio’r PAC yn y dyfodol a’r canlyniadau a fyddai’n rhoi’r budd mwyaf i Gymru. Yn hytrach na bod yn ddiweddglo, y bwriad oedd i’r adroddiad fod yn gam cyntaf mewn trafodaeth barhaus ymysg y Cynulliad a’i randdeiliaid ar yr effaith tebygol y byddai’r broses o ddiwygio’r PAC yn ei chael ar Gymru.
Mae’r PAC o bwys mawr i Gymru. O dan Golofn 1 y PAC mae Cymru yn cael oddeutu €330 miliwn bob blwyddyn, ac, o dan Golofn 2, cafodd €367.7 miliwn ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2007 a 2013. Penderfynodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd felly barhau â’r deialog â rhanddeiliaid yng Nghymru ar y broses ddiwygio, gan sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaeth Cyffredin. Nod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw: cael barn rhanddeiliaid yng Nghymru ar gynigion manwl y Comisiwn ynghylch diwygio’r PAC; cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar ei blaenoriaethau mewn perthynas â thrafod telerau; a chyfrannu at sicrhau bod y safbwyntiau a leisir yng Nghymru yn rhan o’r broses o gynnal trafodaethau yn Ewrop.
Cydnabyddir yn eang y bydd y ddadl ar ddiwygio’r PAC yn cael ei dylanwadu gan y drafodaeth ar bolisïau Ewropeaidd allweddol eraill, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â dyfodol cyllideb yr Undeb Ewropeaidd a chronfeydd strwythurol. O ganlyniad, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y PAC yn ystyried y trafodaethau hyn wrth iddo lunio’i gasgliadau, a bydd yn ceisio sicrhau bod ei waith yn cyd-fynd â’r gwaith craffu y mae pwyllgorau eraill y Cynulliad yn ei wneud mewn perthynas â’r meysydd polisi hyn.
Y Cylch Gorchwyl
¡ Asesu’r effaith y gallai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredin ei chael ar Gymru, gan gynnwys oblygiadau i bolisïau perthnasol Llywodraeth Cymru.
¡ I ystyried pa ganlyniadau a fyddai’n rhoi’r budd mwyaf i Gymru.
¡ Cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y materion y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt wrth drafod y broses ddiwygio.
¡ Bod yn fforwm lle y gall rhanddeiliaid yng Nghymru fod yn rhan o’r ddadl ar ddyfodol y polisi.
¡ Er mwyn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar ddiwygio’r PAC, mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn bwriadu rhannu ei gasgliadau â chyrff seneddol y DU, ynghyd â’r Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a chyrff Ewropeaidd perthnasol eraill, gan gynnwys Pwyllgor y Rhanbarthau.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried y cwestiynau canlynol:
¡ Beth fydd arwyddocâd cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i Gymru?
¡ Beth ddylai fod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru wrth drafod diwygio’r PAC er mwyn sicrhau y ceir canlyniad sy’n rhoi budd i Gymru?
¡ Sut y gall Cymru sicrhau bod ei barn yn rhan o’r broses drafod?
Rhestr o gyrff y gellid ymgynghori â hwy
¡ NFU Cymru
¡ Undeb Amaethwyr Cymru
¡ Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
¡ Ffermwyr Dyfodol Cymru
¡ Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad
¡ Cymdeithas Genedlaethol Defaid Cymru
¡ Cig Oen ac Eidion Cymru
¡ Hybu Cig Cymru
¡ Cyngor Cefn Gwlad Cymru
¡ Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
¡ Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
¡ Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
¡ Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
¡ Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru
¡ Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
¡ Cyswllt Amgylchedd Cymru
¡ Yr Eglwys yng Nghymru
¡ Y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt
¡ Ystâd y Goron
¡ Cymdeithas Frenhinol Ffermwyr Godro Prydain
¡ Cymdeithas y Ffermwyr Tenant
¡ Cymdeithas y Ffermydd Bychain
¡ Cymdeithas Foch Prydain
¡ Cymdeithas y Pridd
¡ Canolfan Organig Prydain